Karl Andree
Mae teulu Prydeiniwr sydd wedi’i ddedfrydu i 350 o chwipiadau yn Saudi Arabia wedi apelio ar yr awdurdodau i ganiatáu i’r dyn “bregus” ddod adref.

Mae Karl Andree, 74, sydd wedi dioddef o ganser, wedi treulio blwyddyn mewn carchar ar ôl i heddlu Saudia Arabia ddod o hyd i win cartref yn ei eiddo.

Cafodd ei arestio yn Jeddah ym mis Awst, a’i ddedfrydu i 12 mis o garchar am dorri cyfreithiau llym y wlad yn erbyn alcohol.

Mae’n dal yn y carchar ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, wrth i awdurdodau Saudi Arabia aros i gynnal y 350 o chwipiadau.

Ond, mae ei deulu yn ofni am gyflwr ei iechyd, ac yn apelio ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd er mwyn ei ryddhau.

‘Ofni am ei gyflwr’

Fe ddywedodd ei fab Simon Andree wrth y BBC: “Mae e wedi gwneud ei amser yno nawr – dylai gael ei ryddhau. Ry’n ni’n ofni am y ddedfryd o chwipio oherwydd ei oedran – efallai na fydd yn goroesi.”

“Mae’n hen ddyn bregus… mae’n ddinesydd Prydeinig, a dw i am iddo ddod adref nawr – digon yw digon.”

Mae Karl Andree wedi byw yn y Dwyrain Canol ers  25 mlynedd ar ôl gweithio yn y diwydiant olew yno. Mae’n dad-cu i saith o wyrion ac wedi dioddef o ganser ac asthma.

Fe ddywedodd ei fab wrth bapur newydd The Sun: “Does dim dwywaith na fydd 350 o chwipiadau yn ei ladd.”

Mae’r teulu hefyd yn galw am ei ryddhau ar delerau tosturiol am fod gwraig Karl Andree yn dioddef o glefyd Alzheimer’s ac yn derbyn gofal ym Mhrydain.

“Mae staff ein llysgenhadaeth yn parhau i gynorthwyo Karl Andree, gan gynnwys gwiriadau rheolaidd ar ei les, a chyswllt cyson â’i gyfreithiwr a’i deulu,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Mae Gweinidogion ac uwch swyddogion wedi codi’r ddadl am achos Karl Andree gyda Llywodraeth Saudi Arabia, ac rydym yn gweithio i’w ryddhau cyn gynted â phosib.”