Enda Kenny
Fe fydd Etholiad Cyffredinol Iwerddon yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn 2016. meddai’r Prif Weinidog Enda Kenny heddiw.

Mae arweinydd plaid Fine Gael, y blaid fwya’ yn y llywodraeth glymblaid sydd wedi dal ati ers etholiad 2011, wedi bod dan bwysau i gyhoeddi pryd y bydd trigolion yr Ynys Werdd yn cael bwrw eu pleidlais. Roedd rhai sylwebwyr wedi awgrymu y gallai etholiad brys gael ei gynnal mor fuan â’r mis nesa’.

Ond mae’r Taoiseach wedi rhoi taw ar y sïon hynny trwy gyhoeddi ar orsaf RTE heddiw mai y flwyddyn nesa’ y bydd yr etholiad nesa’.

“Fy mwriad i yw cynnal etholiad cyffredinol yn ystod gwanwyn 2016, a dw i’n gweld dim rheswm tros newid hynny,” meddai Enda Kenny.

Mae disgwyl i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi ei chyllideb am y flwyddyn nesa’ yn ddiweddarach y mis hwn.