Mae ymosodoiad o’r awyr gan Israel wedi lladd dynes feichiog o Balesteina a’i merch ddwyflwydd oed.

Fe ddigwyddodd hyn wedi i wraig Balesteinaidd arall ffrwydro dyfais yn ei char ar y Lan Orllewinol, gan anafu un o filwyr Israel a hi ei hun.

Dyma’r tro cynta’, meddai sylwebwyr, i ffrwydron gael eu defnyddio yn y rownd ddiweddara’ o drais rhwng y ddwy ochr, yn dilyn cyfres o achosion o drywanu a saethu.

Rai wythnosau’n ol, fe ail-gydiodd y trais yn Jerwsalem ac mae bellach wedi lledu i weddill Israel, tra bod protestiadau ffyrnig wedi bod ar y Lan Orllewinol ac ar hyd y ffin gyda Gaza. Cafodd naw o Balesteiniaid eu lladd yno ddiwedd yr wythnos.