Mae deg o bobol o ddau deulu, yn cynnwys mam, tad a babi pum mis oed, wedi’u lladd mewn tân yn Iwerddon.

Y gred ydi fod pump o blant dan 10 oed ymysg y meirweon, wedi i’r fflamau gynnau mewn safle i deithwyr yn Carrickmines i’r de o ddinas Dulyn, tua 4 o’r gloch y bore, heddiw. Roedd y teuluoedd wedi bod yn byw ar y safle ger traffordd yr M50 ers tua wyth mlynedd.

Mae’r tân yn cael ei drin fel damwain drasig.

Mae’r Southside Traveller Action Group, wedi cydymdeimlo’n gyhoeddus gyda’r teuluoedd sydd wedi’u gadael yn weddwon, ac mae staff y grwp hefyd mewn “sioc” yn dilyn y newyddion am y fath golledion, meddai llefarydd.