Llewes (Llun: Wicipedia)
Mae sw yn Nenmarc yn bwriadu troi’r ddefod o dorri corff llew blwydd oed yn ddarnau yn arddangosfa gyhoeddus i blant – flwyddyn yn unig ers i barc arall gael ei feirniadu’n hallt am wneud yr un peth gyda chorff jiraff, cyn bwydo’r cnawd i lewod.

Y bwriad, meddai llefarydd ar ran Sw Odense yng nghanolbarth Denmarc, ydi “cynnig profiad agos-at yr anifeiliaid” i ymwelwyr.

Fe gafodd y llewes dan sylw yn yr achos hwn ei difa tua naw mis yn ôl oherwydd bod gormod o lewod benyw yn y sw. Ers hynny, mae corff yr anifail wedi’i gadw mewn rhewgell, a’r bwriad yw ei dorri’n ddarnau ddydd Iau nesa’, i gyd-fynd â’r dyddiad y bydd ysgolion yn cau am wyliau hanner tymor.

Mae’r bwriad wedi denu rhai protestiadau, ond ar y cyfan, wedi cael ei groesawu gan bobol Denmarc.

Mae Sw Odense, tua 105 milltir i’r gorllewin o brifddinas Denmarc, Copenhagen, wedi cynnal arddangosfeydd torri cyrff tebyg ers tua 20 mlynedd, ac mae’n dweud mai defod “addysgol” ydi hi, nid un “adloniannol”.

“Dydyn ni ddim yn torri anifeiliaid i fyny am hwyl,” meddai llefarydd ar ran y sw. “Rydyn ni’n credu mewn rhannu gwybodaeth. Mae’n bwysig peidio â rhoi nodweddion dynol i anifeiliaid, oherwydd mae hynny’n gamarweiniol.”