Fe fydd y ganolfan brosesu ymfudwyr gyntaf yn agor ei drysau yng ngwlad Groeg o fewn yr wythnos nesa’, gan ganiatau i ymfudwyr a ffoaduriaid gael eu hedfan oddi yno i wlad o’u dewis. Y gwledydd hynny, wedyn, fydd yn delio â’r broses o’u croesawu neu eu gwrthod, ag â’r holl waith papur.

Fe fydd y ganolfan gynta’ yn agor ar ynys Lesbos, meddai Dimitris Avramopoulos, Comisiynydd Mudo Ewropeaidd a Materion Cartref y wlad. Mae disgwyl i rhyw bedair canolfan debyg agor wedyn ar ynysoedd eraill

Mae degau o filoedd o bobol yn ffoi rhag rhyfeloedd a thlodi yn eu gwledydd eu hundain, wedi glanio yng ngwlad Groeg yr ha’ hwn. Mse Groeg yn cael ei gweld fel y porth i wlad Twrci, cyn bod y bobol wedyn yn gallu cael mynediad i wledydd gogledd Ewrop, fel yr Almaen.

Fe deithiodd gweinidog Materion Tramor gwlad Lwcsembwrg, Jean Asselborn, gyda Mr Avramopoulos i’r Eidal heddiw, gan ddweud ei bod hi’n hollbwysig cryfhau ffin allanol Ewrop.