Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, wedi cyhoeddi fod ei wlad yn barod i herio unrhyw fygythiad ddaw o gyfeiriad yr Unol Daleithiau. Gwnaeth y datganiad yn ystod gorymdaith filwrol foethus i nodi 70ain pen-bwydd ei blaid.

Fe gerddodd Kim Jong Un, wedi’i wisgo mewn du, ar hyd carped coch a oedd wedi’i daenu o flaen rhesaid hir i filwyr. Yna, fe gerddod i ben llwyfan a chodi llaw ar yr holl filwyr oedd yn cymryd rhan yn yr orymdaith yn Sgwar Kim Il Sung yn Pyongyang.

Roedd Liu Yunshan yno’n cynrychioli China, ac yn sefyll ar law chwith Kim Jong Un yn cymeradwyo. Gwenodd Kim Jong Un wrth iddo sgwrsio â Liu Yunshan trwy gyfrwng cyfieithydd.

“Mae ein grym chwyldroadol yn barod i ymateb i unrhyw fath o ryfel y mae’r imperialwyr Americanwyr ei eisau,” meddai, i gymeradwyaeth fawr.

“Trwy linach gwleidyddiaeth Songun (gwleidyddiaeth filwrol) mae Byddin Pobol Corea wedi datblygu i fod y grym chwyldroadol cryfaf, ac mae ein gwlad yn gaer amhosib i neb ei choncro ac yn bwer milwrol byd-eang.

Wedi iddo orffen ei araith, fe gododd miloedd o filwyr gardiau lliw i’r awyr, ac arnynt y sloganau ‘Gwleidyddiaeth Songun’ ac ‘Amddiffyn ein mamwlad’.