Barack Obama
Mae un o gewri byd y cyfryngau, Rupert Murdoch wedi ymddiheuro am sarhau Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama ar wefan Twitter.

Dywedodd Murdoch ei bod hi’n bryd i’r Unol Daleithiau gael “arlywydd du go iawn”, wrth ddatgan ei gefnogaeth i’r ymgeisydd Gweriniaethol, Ben Carson yn y ras nesaf am yr arlywyddiaeth.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Murdoch: “Ben a Candy Carson yn wych. Beth am Arlywydd du go iawn all fynd i’r afael yn iawn â’r rhaniad hiliol?”

Yn ddiweddarach, tynnodd Murdoch, 84, sylw at erthygl mewn cylchgrawn yn Efrog Newydd oedd yn codi amheuon ynghylch yr hyn y mae Barack Obama wedi’i wneud er lles y gymuned Affricanaidd-Americanaidd.

Roedd Murdoch wedi canmol “cefndir, cyflawniadau, cymeriad, gweledigaeth” Carson, sydd bellach wedi ymddeol fel llawfeddyg niwrolegol i droi ei sylw at wleidyddiaeth.

Yn ei neges ddiweddaraf, ymddiheurodd Murdoch gan ddweud: “Ymddiheuriadau. Ddim wedi bwriadu sarhau. Cael y ddau ddyn yn ddymunol.”