Sepp Blatter
Mae pwyllgor moeseg FIFA wedi cyhoeddi bod eu llywydd Sepp Blatter wedi cael ei wahardd dros dro am 90 diwrnod wrth iddyn nhw ymchwilio i’w ymddygiad.

Yn ogystal â hynny mae llywydd UEFA Michel Platini ac ysgrifennydd cyffredinol FIFA Jerome Valcke, sydd eisoes wedi cael ei ddisgyblu gan FIFA, hefyd yn cael gwaharddiad am yr un cyfnod o amser.

Dywedodd y pwyllgor nad oedd gan y tri ohonyn nhw hawl i gymryd rhan mewn unrhyw “weithgareddau pêl-droed gwladol neu ryngwladol” yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae un o gyn is-lywyddion FIFA, Chung Mong-joon, hefyd wedi cael ei wahardd am chwe blynedd a chael dirwy o £67,000.

Pen y mwdwl yn cau?

Dyma un o’r camau mwyaf eto yn y sgandal sydd wedi amgylchynu FIFA dros y misoedd diwethaf wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal yn erbyn sawl un o’u swyddogion sydd yn cael eu hamau o lygredd.

Mae awdurdodau yn y Swistir, ble mae pencadlys FIFA wedi’i sefydlu, eisoes yn ymchwilio i daliad o £1.35m y gwnaeth Blatter i Michel Platini.

Fe gafodd y taliad ei wneud yn 2011, ychydig cyn i Platini benderfynu peidio â herio Blatter am arweinyddiaeth FIFA, am waith yr oedd Platini wedi ei wneud rhwng 1999 a 2002.

Mae Twrnai Cyffredinol y Swistir hefyd yn ymchwilio i honiadau fod Blatter hefyd wedi gwerthu hawliau darlledu i un o gyn is-lywyddion FIFA Jack Warner am bris 20 gwaith yn is na’u gwerth go iawn.

Dywedodd pwyllgor moeseg FIFA bod Chung Mong-joon, sydd o Dde Corea, wedi cael ei wahardd am gamymddwyn yn ymwneud â’r broses o geisio am Gwpan y Byd yn 2018 a 2022.