Mae’n bryd i’r Unol Daleithiau ethol “arlywydd du go iawn”, yn ôl un o fawrion byd y cyfryngau, Rupert Murdoch.

Gwnaeth sylfaenydd cwmni cyfryngau News Corp – sy’n berchen ar y New York Post a’r Wall Street Journal – ei sylwadau wrth ganmol ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer yr arlywyddiaeth, Ben Carson.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Murdoch: “Ben a Candy Carson yn wych. Beth am Arlywydd du go iawn all fynd i’r afael yn iawn â’r rhaniad hiliol?”

Yn ddiweddarach, tynnodd Murdoch, 84, sylw at erthygl mewn cylchgrawn yn Efrog Newydd oedd yn codi amheuon ynghylch yr hyn y mae Barack Obama wedi’i wneud er lles y gymuned Affricanaidd-Americanaidd.

Mae Murdoch wedi canmol “cefndir, cyflawniadau, cymeriad, gweledigaeth” Carson, sydd bellach wedi ymddeol fel llawfeddyg niwrolegol i droi ei sylw at wleidyddiaeth.