Mae cwmni ceir Volkswagen wedi gohirio lansiad eu modelau newydd yn yr Unol Daleithiau.

Roedd disgwyl i fodelau newydd Jetta, Golf, Passat a Beetle gael eu lansio’n fuan, ond mae amheuon bellach eu bod nhw’n cynnwys y system twyllo profion disel sydd wedi arwain at sgandal yn y diwydiant ceir.

Mae’r sgandal yn effeithio ar 11 miliwn o geir y cwmni a gafodd eu cynhyrchu rhwng 2009 a 2015.

Bellach, mae Volkswagen wedi penderfynu tynnu ceisiadau am dystysgrifau ar gyfer y ceir newydd yn ôl, gan adael miloedd o geir mewn porthladdoedd ar draws yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y cwmni mewn tystiolaeth ysgrifenedig fod y ceir yn cynnwys meddalwedd y dylid fod wedi’i wirio cyn derbyn tystysgrifau.

Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd Volkswagen yn ail-gyflwyno’r cais am dystysgrif.

Fe fydd cynrychiolydd o Volkswagen yn ymddangos gerbron panel o wleidyddion o Dŷ’r Cynrychiolwyr ddydd Iau.

Ar y cyfan, mae ceir disel yn cyfrif am ryw draean o werthiant ceir Volkswagen, a allai fod yn newyddion drwg i werthwyr ceir ar draws yr Unol Daleithiau.

Yn y cyfamser, mae Gweinidog Trafnidiaeth yr Almaen, Alexander Dobrindt wedi dweud na fydd ceir Volkswagen 1.6 sy’n cynnwys offer twyllo profion yn cael eu trwsio tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.

Bydd modelau Volkswagen 2.0 yn barod cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r helynt wedi effeithio ar 3.6 miliwn o geir Volkswagen 1.6 ar draws Ewrop.