Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi dweud bod cytundeb, a roddodd fynediad i ddata miliynau o bobl ar-lein i ysbiwyr o America, yn annilys.

Roedd yr ymgyrchydd preifatrwydd o Awstria, Max Schrems wedi herio’r cytundeb Safe Harbour yn ei frwydr i ddatgelu pa wybodaeth mae Facebook wedi’i rhoi i asiantaethau cudd-wybodaeth yn America.

Roedd y llys o’r farn bod y ddeddfwriaeth sy’n galluogi’r awdurdodau i gael mynediad i gynnwys data electronig wedi rhoi’r hawl sylfaenol o barchu bywyd preifat mewn perygl.

“Mae’r llys yn cyhoeddi bod cytundeb Safe Harbour yn annilys,” meddai’r dyfarniad.

Edward Snowden yn dechrau’r cwbl

Fe ddechreuodd brwydr gyfreithiol Max Schrems dros Safe Harbour yn dilyn datguddiadau Edward Snowden am system wyliadwriaeth Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol America (NSA), Prism.

Roedd y system yn galluogi ysbiwyr i gael mynediad i ddata gan gwmnïau technegol rhyngwladol.

Roedd wedi mynd a’i achos yn Iwerddon i ddechrau ar ôl methu â chael Comisiwn Diogelu Data y wlad, i ymchwilio i Facebook.

Dywedodd Max Schrems fod gan sefydliad gwarchod data Iwerddon y cyfrifoldeb i ddatgelu pa wybodaeth roedd Facebook yn ei chadw am ddefnyddwyr a oedd yn cael ei throsglwyddo i America o dan y cynllun Safe Habour a Prism.

Roedd yr achos wedi cael ei gynnal yn Nulyn, gan fod gan bob defnyddiwr Facebook y tu allan i America a Chanada, gytundeb gyda Facebook Iwerddon.

Cafodd ei drosglwyddo’n ddiweddarach i’r llys yn Ewrop.

Fe wnaeth Edward Snowden, cyn-gontractwr i’r NSA, sydd bellach ar ffo yn Rwsia, gorddi’r dyfroedd pan gyhoeddodd ddegau o filoedd o ddogfennau am raglenni gwyliadwriaeth asiantaethau cudd-wybodaeth America ac asiantaethau rhyngwladol tebyg, gan gynnwys y ganolfan glustfeinio GCHQ ym Mhrydain yn 2013.

Aeth i Hong Kong er mwyn dianc o America, lle wnaeth gyd-lynu cyfres o erthyglau a oedd yn datgelu rhaglenni gwyliadwriaeth fel Prism yr NSA a Tempora GCHQ.