Mae dynes dweud y tywydd yn Rwsia wedi cyhoeddi ar deledu’r wlad ei bod hi’n “dywydd perffaith” ar gyfer cynnal ymosodiadau o’r awyr ar Syria.

“Mae lluoedd awyr Rwsia yn parhau â’u gwaith yn Syria. Mae arbenigwyr yn dweud bod yr amseru yn dda iawn o ran y tywydd,” meddai’r cyflwynydd, wrth i’r rhagolygon ddangos ffilm o’r awyr a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n dangos targedau ar dir gwledig Syria yn cael eu bomio.

Mae llywodraeth Rwsia wedi mynnu bod yr ymosodiadau yn cael eu cyfeirio at y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yno, ond mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu targedu at ardaloedd sydd ddim yn cael eu rheoli gan y grŵp brawychu, mewn cais i ladd grwpiau eraill sydd yn erbyn cyfundrefn arlywydd Syria, Bashar Assad.

Mae llawer o wledydd y byd, gan gynnwys Prydain ac America wedi beirniadu rhan Rwsia yn yr ymladd yn Syria ac wedi galw ar arlywydd Rwsia, Vladimir Putin i roi’r gorau i ymosod ar y wlad.