Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd a dwsinau eraill ar goll, gan gynnwys 30 o bysgotwyr yn ynysoedd y Philipinau, wedi i deiffwn daro China ddoe.

Roedd bron i 200,000 o bobol yn ne China wedi gorfod gadael eu cartrefi cyn i Deiffŵn Mujigae gyrraedd dinas Zhanjiang, yn ôl y Ganolfan Dywydd Genedlaethol.

Erbyn 7yh neithiwr, roedd canol y teiffŵn tua 285 o filltiroedd i’r gorllewin o Hong Kong, ac roedd yn symud yn raddol tua chanol y wlad.

Mae adroddiadau gan y ganolfan yn dweud bod y gwyntoedd yn rhuo ar 112 milltir yr awr.

Dyma’r 22ain tro i deiffŵn gyrraedd China eleni. Roedd wedi dechrau o ogledd y Philipinau.