Colofnau Rhufeinig hen ddinas Palmyra
Mae gwrthryfelwyr IS yn cael eu cyhuddo o ddinistrio bwa 2,000 o flynyddoedd oed yn ninas hynafol Palmyra yn Syria.

Bwa’r Fuddugoliaeth ydi’r heneb ddiweddara’ i gael ei thargedu gan y grwp, wedi iddo ddinistrio safleoedd archeolegol a llefydd o bwys hanesyddol yn Irac a Syria.

Y bwa oedd un o safleoedd mwya’ adnabyddus Palmyra, y ddinas y mae Syriaid yn cyfeirio ati’n annwyl fel ‘Priodferch yr Anialwch’.

Roedd y bwa’n edrych i lawr ar strydoedd yr hen ddinas, a oedd yn borth rhwng Ymerodraeth Rhufain, a Phersia a’r Dwyrain.