Mae mwy na 20 o bobol wedi’u hanafu wedi i gar cyflym oedd yn cymryd rhan mewn sioe geir yn ynys Melita sgidio’n ddi-reol a gyrru i mewn i’r dorf.

Mae pump o’r rheiny gafodd eu taro mewn cyflwr difrifol, tra bod naw ohonyn nhw – yn cynnwys gyrrwr y car – wedi torri esgyrn yn eu cyrff ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Roedd y car Porsche Spyder yn gyrru ar gyflymder mawr ar hyd llwybr tacsi mewn maes awyr yn ardal Hal Farrug.

O ganlyniad i’r ddamwain, fe gafodd gweddill y sioe geir – a gynhaliwyd er mwyn codi arian at yr anghenus – ei chanslo.