Mae Heddlu Israel wedi gwahardd Palestiniaid rhag mynd y tu fewn i furiau dinas Jerwsalem wedi i ddau o bobol gael eu trywanu.

Cafodd llanc ei saethu’n farw gan yr heddlu y bore ma wedi iddo drywanu ac anafu llanc 15 oed.

Daeth yr ymosodiad oriau’n unig wedi i lanc arall drywanu dau o Israeliaid i farwolaeth yn y ddinas. Cafodd dynes a phlentyn eu hanafu ganddo hefyd cyn iddo gael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Mae protestiadau ger y safle sanctaidd ar gyrion y ddinas wedi dod yn gyffredin iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu gyfarfod ag awdurdodau diogelwch i drafod y sefyllfa.

Mae adroddiadau lleol yn awgrymu mai Fadi Alloun, 19, oedd yn gyfrifol am yr ail ymosodiad y bore ma.

Mae oddeutu 300,000 o Balestiniaid yn byw yn ninas Jerwsalem, ac fe fydd modd iddyn nhw a Phalestiniaid sy’n gweithio yn y ddinas gael mynediad iddi.