Mae 69 o bobol wedi marw hyd yma yn dilyn tirlithriad yn Guatemala nos Iau.
Mae 350 o bobol ar goll o hyd yn dilyn y digwyddiad ar gyrion dinas Guatemala City, ac mae nifer y cyrff sy’n cael eu darganfod yn cynyddu’n gyson.
Mae’r gwasanaethau brys yn dal i chwilio am gyrff a phobol sydd wedi goroesi’r digwyddiad, ac mae hyd at 125 o gartrefi wedi cael eu claddu o dan rwbel yn Cambray yn ardal Santa Catarina Pinula.
Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i obeithio y byddan nhw’n dod o hyd i ragor o bobol yn fyw.
Mae teuluoedd nifer o’r rhai sydd ar goll wedi derbyn negeseuon gan eu hanwyliaid yn dweud eu bod nhw’n fyw ond wedi mynd yn sownd o dan rwbel.
Mae’r awdurdodau’n awyddus i ddarganfod o ble mae’r negeseuon wedi cael eu hanfon.
Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi dechrau adnabod eu hanwyliaid yn ffurfiol.
Ymhlith y rhai fu farw roedd aelod 18 oed o garfan sboncen y wlad, Quani Bonilla.