Mae o leiaf naw o feddygon wedi cael eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr gan luoedd America ar ysbyty yn Afghanistan.

Roedd yr ysbyty yn ninas Kunduz yn cael ei rhedeg gan yr elusen feddygol Medecins Sans Frontiers, sy’n cyhuddo lluoedd America o fod wedi anwybyddu eu rhybuddion.

Dywed fod lleoliad manwl yr ysbyty’n hysbys i bawb sy’n ymladd yno, a bod y bomio wedi parhau am hanner awr ar ôl iddyn nhw roi gwybodaeth i swyddogion milwrol Afghanistan ac America.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau mân y bore ar ôl dyddiau o ymladd rhwng y Taliban a’r lluoedd rhyngwladol yn y ddinas.

Roedd 105 o gleifion a’u gofalwyr a thros 80 o staff Medecins Sans Frontiers yn yr adeilad ar y pryd, a dywed yr elusen fod rhannau o’r ysbyty wedi cael eu dinistrio’n llwyr a’u bod yn ofni y bydd nifer y marwolaethau’n codi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen eu bod yn condemnio’n llwyr y weithred erchyll, a’u bod yn ceisio cael eglurhad clir o beth yn union sydd wedi digwydd.

Gan gydnabod y gallai  ymosodiad o’r awyr gan luoedd America wedi difrodi’r ysbyty, dywedodd y Col Brian Tribus ar ran y lluoedd rhyngwladol yn Afghanistan eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.