Sepp Blatter (llun: PA)
Mae rhai o brif noddwyr pêl-droed rhyngwladol yn galw ar i Sepp Blatter, llywydd Fifa, ymddiswyddo ar unwaith.

Yn eu plith mae Coca-Cola, McDonald’s a Visa, a daw eu galwad wythnos ar ôl cyhoeddiad fod Blatter yn wynebu ymchwiliad troseddol i gamweddau ariannol honedig yn y gymdeithas bêl-droed ryngwladol.

“Er budd y gêm, mae Coca-Cola yn galw ar lywydd Fifa, Joseph Blatter, i fynd ar unwaith fel y gall proses ddiwygio gredadwy a chynaliadwy gychwyn o ddifrif,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Bob dydd sy’n mynd heibio, mae delwedd ac enw da Fifa yn dal i ddirywio.”

Gwrthod yr alwad mae Sepp Blatter fodd bynnag.

Mewn datganiad, dywedodd ei gyfreithiwr:

“Er bod Coca-Cola yn un o noddwyr gwerthfawr Fifa, mae Mr Blatter yn anghytuno â’u barn ac yn credu’n gryf na fyddai iddo adael ei swydd ar hyn o bryd er budd Fifa nac yn hybu’r broses o ddiwygio, felly ni fydd yn ymddiswyddo.”