Bashar Assad ym Moscow yn 2011 (Rakkar CCA 3.0)
Mae swyddogion Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau wedi galw ar fyddin Rwsia i ymosod ar filwyr y garfan eithafol IS yn hytrach na thargedu gwrthwynebwyr eraill yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae tensiynau rhwng Washington a Moscow wedi dwyshau ers i Rwsia ddechrau ar gyrchoedd awyr sy’n cael eu gweld gan y Pentagon yn gyfle iddi gryfhau safle Assad.

Maen nhw’n cyhuddo Rwsia o ymosod ar garfannau sy’n gefnogol i’r Unol Daleithiau ac yn cael cymorth ganddi gan honni bod Rwsia’n ymosod ar ardaloedd o Syria lle nad yw IS yn weithgar.

Fe ddisgrifiodd ysgrifennydd y wasg yn y Tŷ Gwyn, Josh Earnest y cyrchoedd awyr a ddechreuodd ddydd Llun, “fel ymgyrch filwrol yn erbyn gwrthwynebwyr llywodraeth Syria”.

Osgoi gwrthdaro

Dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon, Peter Cook fod y ddwy ochr yn y trafodaethau wedi cyflwyno cynigion a syniadau i osgoi gwrthdaro rhwng awyrennau yr Unol Daleithiau a Rwsia.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Rwsia fod 12 o dargedau wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi sy’n perthyn i ymladdwyr IS yn yn y 24 awr diwethaf.

Maen nhw wedi galw am gydweithio yn erbyn IS ond maen nhw’n dadlau hefyd fod rhaid cryfhau safle Bashar Assad er mwyn gwneud hynny.