Dalai Lama
Mae’r arweinydd ysbrydol, y Dalai Lama, wedi canslo taith i’r Unol Daleithiau y mis nesa’, gan ddweud fod meddygon wedi’i gynghori i beidio â mentro.

Fe wnaeth y Bwdydd Tibetaidd y cyhoeddiad ar ei wefan brynhawn heddiw, ychydig oriau’n unig wedi i Brifysgol Colorado gyhoeddi ei fod wedi canslo ei ymweliad â nhw.

Mae’r mynach 80 oed wedi bod yn America yr wythnos hon yn cael profion iechyd yng Nghlinic Mayo yn Rochester, Minnesota.

Doedd ei ddatganiad ddim yn cynnig rheswm am ganslo ei ymweliad ag America.