Mae heddlu Gwlad Thai wedi cyhoeddi eu bod wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â’r ffrwydriadau diweddar yn ninas Bangkok.

Mae’r awdurdodau’n dweud eu bod yn hyderus fod digon o dystiolaeth er mwyn erlyn y ddau yn y ddalfa – Adem Karadag a Mieraili Yusufu – a hynny am yr ymosodiad yn ardal gysegredig Erawan o’r ddinas ar Awst 17, pryd y lladdwyd 20 o bobol a phan gafodd mwy na 120 eu hanafu.

Ond mae’r heddlu’n parhau i chwilio am beth bynnag 15 o bobol eraill y maen nhw’n credu sydd â chysylltiad â’r achos.

Mewn datganiad, mae heddlu Gwlad Thai yn dweud mai  Adem Karadag ydi’r dyn â’r crys melyn mewn lluniau teledu cylch-cyfyng a osododd y ddyfais; ac mai Mieraili Yusufu ydi’r un a ffrwydrodd y bom.