Mae dyn sy’n cael ei amau o fod yn eithafwr Islamaidd ac sydd wedi’i gyhuddo o fod â rhan yn y weithred o ddinistrio adeiladau crefyddol yn Timbuktu, wedi cael ei arestio a’i anfon i’r Llys Troseddol Rhyngwladol i sefyll ei brawf.

Ahmad Al Mahdi Al Faqi, sy’n cael ei nabod fel Abu Tourab, ydi’r cynta’ i gael ei anfon i’r llys yn Yr Iseldiroedd wedi’i gyhuddo o’r drosedd ryfel o ddinistrio cofebau hanesyddol neu grefyddol.

Mae wedi’i gyhuddo o ddinistio deg o adeiladau hanesyddol, yn cynnwys mosg, yn ninas hanesyddol Mali yn 2012.

Roedd Abu Tourab yn aelod o grwp oedd yn dwyn yr enw Ansar Dine, sydd â chysylltiadau ag Al-Qaida.

Mae Timbuktu ar restro UNESCO o safleoedd Treftadaeth y Byd. Yn ei hanterth yn y 15ed a’r 16eg ganrif, roedd yn y ddinas 180 o ysgolion a phrifysgolion a oedd yn derbyn miloedd o ddisgyblion a myfyrwyr o bob cwr o’r byd Mwslimaidd.