Sanaa, prifddinas Yemen
Mae o leiaf 25 o bobl wedi cael eu lladd a degau’n fwy wedi cael eu hanafu wrth i fom ffrwydro mewn mosg ym mhrifddinas Yemen, Sanaa.

Ffrwydrodd y bom yn ystod gweddïau Eid al-Adha, sef gŵyl Fwslimaidd sy’n cael ei dathlu dros y byd ac sy’n cael ei adnabod fel ‘gŵyl aberth’.

Roedd un bomiwr wedi rhoi dyfais ffrwydrol yn ei esgid gan achosi ffrwydrad yn syth.

Mae swyddogion yno’n dweud bod yr addolwyr wedi brysio at y drws wrth i fomiwr arall danio ei hun wrth fynedfa’r mosg.

Arlywydd Yemen

 

Mae’r ymosodiad hwn yn dod dau ddiwrnod ar ôl i Arlywydd Yemen, Abdrabbuh Mansour Hadi ddychwelyd i ddinas Aden yn y de ar ôl cael ei alltudio i Saudi Arabia.

Roedd wedi dianc ym mis Mawrth ar ôl i wrthryfelwyr Houthi ennill tir yn y wlad yn y rhyfel.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi cyhuddo’r llywodraeth o lygredd ac o wthio eu tir i’r cyrion fel rhan o system ffederal arfaethedig.

Erbyn hyn, mae’r glymblaid rhwng Yemen a Saudi Arabia wedi gwthio’r Houthis i ffwrdd o rai ardaloedd, gan gynnwys Aden.

Fodd bynnag, mae’r Houthis, sy’n wrthryfelwyr Mwslimaidd Shiaidd o ogledd y wlad yn dal i reoli’r brifddinas.

Mae’r cenhedloedd unedig yn dweud bod 4,900 o bobl, gan gynnwys 2,200 o ddinasyddion wedi cael eu lladd hyd yma yn Yemen ers 26 Mawrth.