ffoaduriaid
Mae’r awdurdodau yng Nghroatia wedi penderfynu agor canolfan i dderbyn ffoaduriaid yn un o drefi dwyreiniol y wlad, Opatovac, er mwyn mynd i’r afael a’r anrhefn ers i filoedd gyrraedd y wlad.

Credir bod tua 27,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Croatia ers 15 Medi eleni – a hynny’n dilyn penderfyniad Hwngari i gau ei ffiniau â Serbia.

Bydd awdurdodau Croatia yn cofrestru’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd y wlad yn y ganolfan hon, cyn trefnu cludiant pellach ar eu cyfer.

Mae’r wlad wedi profi cyfnod o anhrefn yn ddiweddar, a bwriad hyn yw ceisio adennill rhywfaint o drefn wrth dderbyn y miloedd sy’n cyrraedd Ewrop o’r Dwyrain Canol, Affrica ac Asia.

Fe wnaeth Hwngari ailagor ei ffiniau â Serbia ddoe wedi iddi fod ynghau am 5 diwrnod.

Daeth y penderfyniad hwn yn dilyn trafodaethau ag awdurdodau Serbia. Er bod priffordd yr M5 rhwng Hwngari a Serbia wedi ailagor i gerbydau, bydd gwiriadau tynn yn parhau i gael eu cynnal ar y ffin.

Trychinebau

Mae pryder y gallai nifer o ffoaduriaid fod wedi marw dros y penwythnos yn dilyn dau drychineb yn ymwneud â chychod.

Bu farw 13 o ffoaduriaid ddydd Sul, wedi i gwch llawn ffoaduriaid wrthdaro â llong oddi ar arfordir Twrci.

Yn ogystal, suddodd cwch oedd yn cludo ffoaduriaid yn y Môr Aegeaidd oddi ar Ynys Lesbos ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr awdurdodau, mae tua 29 o bobol wedi cael eu hachub yn y ddau achos, ond credir bod merch 5 oed wedi boddi, a bod rhwng 10 a 12 o bobol yn parhau i fod ar goll.