Yn wyneb diweithdra sylweddol, mae 2.3 miliwn o bobol wedi gwneud cais am 368 o swyddi yng ngogledd India.

Roedd yr hysbysebion ar gyfer swyddi lefel isel, ond roedd graddedigion a meddygon cymwys ymhlith y rhai oedd wedi gwneud cais yn nhalaith Uttar Pradesh.

16,000 rupee (£150) y mis yw’r cyflog ar gyfer y swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y dalaith y byddai’n rhaid trefnu arholiad i ddod o hyd i ymgeiswyr llwyddiannus, gan y gallai gymryd hyd at bedair blynedd i gynnal yr holl gyfweliadau.