Mae ail wrandawiad i benderfynu p’un ai ddylai’r paralympiwr, Oscar Pistorius, gael ei ryddhau o garchar, wedi’i ohirio am bythefnos.

Mae Adran y Gwasanaethau Adferol wedi dweud fod ei fwrdd parol eisoes wedi cyfarfod ddydd Gwener i drafod nifer o achosion, ond na chafodd achos Oscar Pistorius a rhai eraill ddim eu hystyried oherwydd i’r bwrdd fethu â dod i ben â’i holl lwyth gwaith.

Roedd argymhelliad wedi’i wneud y mis diwetha’ y dylai’r athletwr gael ei ryddhau i dreulio gweddill ei ddedfryd yn garcharor yn ei gartre ei hun, ond fe ddaeth ymyrraeth gan weinidog cyfiawnder De Affrica yn dweud fod y penderfyniad wedi’i wneud yn gyn-amserol, ac yntau wedi treulio 10 mis yn unig dan glo.

Mae Oscar Pistorius wedi’i ddedfrydu i dreulio pum mlynedd dan glo, wedi i farnwr ei gael yn euog fis Hydref diwetha’ o ddynladdiad ei gariad, Reeva Steenkapm, yn 2013.