Mae miloedd o ffoaduriaid wedi cyrraedd Awstria yn chwilio am hafan, wedi iddyn nhw dreulio’r dyddiau diwetha’ yn cael eu hel o un wlad i’r llall yng nghanolbarth Ewrop.

Mae heddlu Awstria wedi cadarnhau fod tua 6,700 o bobol wedi teithio i’r wlad o Hwngari, wedi iddyn nhw gael eu dal rhwng nifer o wledydd wrth i ffiniau gael eu cau er mwyn eu rhwystro rhag mynd i Hwngari, Serbia a Croatia.

Mae disgwyl i fwy o bobol bara i wneud eu ffordd i ogledd Ewrop trwy wledydd Twrci a Groeg, wedi iddyn nhw ffoi rhag rhyfel a thlodi yn y Dwyrain Canol ac Affrica.

Heddiw, mae gwylwyr y glannau yng Ngroeg yn dweud iddyn nhw fethu ag achub merch bum mlwydd oed a ganfuwyd yn y tonnau oddi ar arfordir Lesbos. Roedd y cwch yr oedd hi’n teithio ynddo wedi suddo, gan adael 14 o bobol eraill hefyd ar goll.

Fe gafodd ffoaduriaid eu hysio oddi ar y ffin rhwng Hwngari a Serbia gan nwy dagrau a chanonau dwr, ac fe gafodd y rheiny a dderbyniwyd i Groatia rai dyddiau ynghynt eu hel o’r wlad honno hefyd wedi i’r llywodraeth benderfynu na allai ymdopi â’r holl bobol.

Dyna pryd y cafodd rhai cannoedd eu rhoi ar fysiau yn Hwngari a’u hanfon i Awstria. Ac mae disgwyl mwy o ffoaduriaid i gyrraedd Awstria heddiw.