Mae’r heddlu yn India’n chwilio am ddyn sydd wedi’i amau o achosi ffrwydrad a laddodd 90 o bobol mewn bwyty ddydd Sadwrn.

Mae trigolion yn nhref Petlawad yn nhalaith Madhya Pradesh yn protestio am y ffordd y mae’r heddlu’n ymchwilio i’r achos.

Ffrwydrodd silindr nwy yn y bwyty gan achosi ail ffrwydrad.

Roedd protestwyr ar y safle i fynegi eu dicter wrth Brif Weinidog y dalaith, Shivraj Singh Chouhan.

Dywedodd yr heddlu fod y protestwyr hefyd yn anfodlon gyda’r penderfyniad i beidio arestio’r dyn sydd wedi’i amau o storio’r ffrwydron.

Roedd y protestwyr eisoes wedi mynegi eu pryderon ynghylch storio’r ffrwydron yn yr adeilad drws nesaf i’r bwyty.

Cafodd cyrff 90 o bobol eu darganfod o dan rwbel.

Cafodd oddeutu 100 o bobol eu hanafu, ac mae 20 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae tref Petlawad oddeutu 590 milltir i’r de o ddinas New Delhi.