Mae’r cyn-chwaraewr tenis rhyngwladol, James Blake, wedi dweud y dylai’r heddwas wnaeth ei arestio ar gam yn Efrog Newydd, gael y sac.

Fe gafodd James Blake, 35, ei daclo i’r llawr yn ystod y digwyddiad a gafodd ei ddal ar gamera. Mae heddlu Efrog Newydd a’r comisiynydd wedi ymddiheuro iddo am ei gamgymryd am droseddwr.

“Dw i ddim yn credu y dylai’r heddwas gael bathodyn na gwn byth eto,” meddai James Blake.

Fe ddaw’r sylwadau ddiwrnod wedi i ffilm ohono’n cael ei arestio y tu allan i westy yn Manhattan, ynghyd â manylion ynglyn â’r modd yr aeth yr un heddwas ati i wneud ei waith yn y gorffennol, gael eu cyhoeddi.

Roedd James Blake wedi ei adnabod ar gam gan dyst, ac fe gafodd ei arestio fel rhan o ymgyrch i ddod o hyd i dwyllwr.