Mae gwrthdaro rhwng miloedd o ffoaduriaid a’r awdurdodau yn parhau mewn gorsaf drenau ym Mwdapest yn Hwngari, wrth i’r heddlu geisio corlannu’r ffoaduriaid i wersyll ceiswyr lloches.

Ac mae Prif Weinidog Hwngari wedi rhybuddio gwledydd eraill Ewrop ei fod yn bwriadu atgyfnerthu ffiniau ei wlad, gan wneud hi’n amhosib i newydd ddyfodiad gamu ar ei thiroedd.

Mae ei lywodraeth wedi ei chael hi’n anodd symud ymwelwyr o orsaf Keleti ym Mwdapest wrth i’r safle droi yn wersyll i ffoaduriaid.

Brysiodd ffoaduriaid sy’n dianc o ryfel a newyn yn y dwyrain canol, Asia ac Affrica i orsaf reilffordd Keleti yn y brifddinas pan benderfynodd yr Heddlu ddod a gwarchae i ben fore Iau.

Y bwriad oedd rhwystro ffoaduriaid rhag dal trenau i’r Almaen ac Awstria.

Ond mewn golygfeydd syfrdanol, gwelwyd pobl yn gwthio ar drenau, gyda phlant yn crio a rhieni yn tynnu plant drwy ffenestri cerbydau trên er mwyn dianc o Hwngari.