Mae dyn 65 mlwydd oed wedi diodde’ ymosodiad gan siarc yn Awstralia, ond fe lwyddodd i ddianc i ddiogelwch a chael cymorth ar y lan.

Roedd y dyn ar sgi dwr ger tre’ Forster yn nhalaith De Cymru Newydd, 185 milltir i’r gogledd o Sydney, pan aeth y siarc amdano.

Fe syrthiodd i’r dwr, ond fe lwyddodd i’w gael ei hun yn ol ar ei sgi er mwyn cyrraedd y lan. Fe gafodd help gan bobol ar y traeth.

Ond fe fu’n rhaid iddo gael ei hedfan i’r ysbyty yn ddiweddarach, a chael llawdriniaeth i anaf ar ei goes. Mae’r anaf wedi’i ddisgrifio gan y gwasanaeth ambiwlans fel un “difrifol”.