Mae tri o bobol wedi’u saethu, ac mae un ohonyn nhw wedi marw, ger maes pêl-fâs ar gampws coleg yn yr Unol Daleithiau.

Mae heddlu Sacramento, mewn datganiad yn dweud fod campws y Sacramento City College yng Nghaliffornia wedi’i gau i ffwrdd tra bod y chwilio’n mynd rhagddo am saethwr oedd yn gwisgo dim ond trowsus byr.

Mae datganiad yr heddlu hefyd yn nodi mai dynion oedd pob un o’r rhai a gafodd eu saethu. Mae dau wedi’u cludo i’r ysbyty, tra bod y trydydd wedi marw.