Philip Pendlebury
Mae dau newyddiadurwr o wledydd Prydain, a gafodd eu harestio tra’n ffilmio yn ne-ddwyrain Twrci, wedi cael eu rhyddhau, yn ôl eu cyflogwyr Vice News.

Cafodd y gohebydd Jake Hanrahan a’r dyn camera Philip Pendlebury eu harestio tra’n ffilmio yn rhanbarth Diyarbakir, ac fe gawson nhw eu cyhuddo ddydd Llun o weithio ar ran sefydliad brawychol ac o gynorthwyo’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Cafodd dyn arall o Dwrci, Mohammed Ismael Rasool, sydd hefyd yn gweithio i Vice News, ei arestio wrth i’r tri fynd ati i ffilmio gwrthdaro rhwng yr heddlu ac aelodau o Blaid y Gweithwyr Cwrdaidd (PKK) ddydd Iau diwethaf.

Daeth cadarnhad bellach gan Vice News bod Jake Hanrahan a Philip Pendlebury wedi cael eu rhyddhau ond mae Mohammed Ismael Rasool yn parhau yn y ddalfa.

Roedd yr elusen ddyngarol eisoes wedi dweud bod y cyhuddiadau yn erbyn y ddau yn dystiolaeth bellach fod awdurdodau Twrci’n amharu ar newyddiadurwyr wrth iddyn nhw adrodd straeon sy’n debygol o beri embaras iddyn nhw.