Ffoaduriaid yng ngorsaf drenau Bwdapest
Mae miloedd o geiswyr lloches yn parhau yng ngorsaf drenau Bwdapest wrth i’r awdurdodau gadw at reolau’r Undeb Ewropeaidd sy’n eu hatal rhag teithio i’r Almaen a gwledydd eraill i’r gorllewin o Hwngari.

Mae tua 3,000 o ffoaduriaid yn gwersylla y tu allan i brif fynedfa gorsaf Keleti ym mhrifddinas Hwngari.

Mae grwpiau gwirfoddol sy’n dosbarthu bwyd, dillad a chymorth meddygol, yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r nifer cynyddol o ffoaduriaid sy’n gwersylla yno.

Mae mwy na 150,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Hwngari eleni, gyda’r rhan fwyaf yn dod dros y ffin ddeheuol gyda Serbia.

Mae nifer yn gwneud cais am loches ond yna’n gadael yn fuan wedi hynny er mwyn teithio i wledydd cyfoethocach yr Undeb Ewropeaidd.