Y gysegrfan yn Bangkok
Mae’r awdurdodau yng Ngwlad Thai wedi arestio dyn ar amheuaeth o fod yn benna’ gyfrifol am fomio cysegrfan yn ninas Bangkok a laddodd 20 o bobol.

Dywedodd Prif Weinidog y wlad, Prayuth Chan-ocha, fod y dyn yn dod o dramor a chafodd ei arestio yn nwyrain Gwlad Thai, yn agos i’r ffin â Cambodia.

Darn mewn jig-so

Yn ôl y prif weinidog, roedd y dyn fel darn mewn jig-so a fyddai’n cysylltu’r awdurdodau â gwahanol rannau o’r gyfres o ddigwyddiadau a oedd yn cynnwys ffrwydrad arall ddiwrnod ar ôl y bomio yn y gysegrfan. Ffrwydrodd y bom hwnnw yn yr afon wrth ochr pier prysur yn Bangkok heb achosi niwed i neb.

Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio wedi’i gysylltu â’r ffrwydrad cyntaf ond dyw’r awdurdodau ddim wedi  cyhoeddi ei enw na dweud o ba genedl y mae.

Cyhoeddwyd gwarantau i arestio dau arall sydd dan amheuaeth – menyw o wlad Thai a dyn nad yw ei genedl yn hysbys eto.