Y ffoaduriaid yng ngorsaf Hwngari
Mae trenau ar brif reilffordd Hwngari wedi cael eu gohirio wrth i gannoedd o ffoaduriaid geisio croesi’r ffin i Awstria a’r Almaen.

Bu’n rhaid i staff yr orsaf yn ninas Budapest wacáu’r orsaf, ac roedd y ffoaduriaid yn llafarganu “rhyddid, rhyddid” y tu allan.

Roedd modd i gannoedd yn rhagor o deithwyr a chanddyn nhw’r dogfennau a’r tocynnau priodol aros yn yr orsaf.

Yn gynharach, fe fu’n rhaid i’r heddlu ymateb i ambell ffrwgwd wrth i ffoaduriaid wthio’u ffordd tua gatiau ger platfform i fynd ar drên i Fienna a Munich.

Mae’n ymddangos erbyn hyn bod y penderfyniad i gau’r orsaf wedi deillio o bwysau gan nifer o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n ceisio atal ffoaduriaid o Hwngari.

Cyrhaeddodd 3,650 o ffoaduriaid o Hwngari orsaf Westbahnhof yn Fienna ddydd Llun, a’r rhan fwyaf yn bwriadu teithio i’r Almaen.

Dywedodd Canghellor Awstria, Werner Faymann: “Rhoi rhwydd hynt iddyn nhw fynd o Budapest… a gwylio wrth iddyn nhw gael eu cludo i’r cymydog (Awstria) – nid gwleidyddiaeth yw hynny.”

Mae’r heddlu wedi rhybuddio nad oes ganddyn nhw adnoddau digonol i gadw trefn ar ffiniau, sydd fel arfer yn golygu troi pobol i ffwrdd os nad ydyn nhw’n gwneud cais am loches yn Awstria.

Ond mae rhai rhwystrau yn eu lle ar y prif ffyrdd rhwng Hwngari ac Awstria.