Colofnau Rhufeinig yn Palmyra
Mae lluniau lloeren yn dangos bod teml hynafol yn ninas Palmyra yn Syria wedi cael ei dinistrio, yn ôl asiantaeth y Cenhedloedd Unedig (CU).

Cafodd y delweddau eu cymryd ddiwrnod ar ôl ffrwydrad enfawr ger Teml Bel yn y ddinas sydd wedi’i meddiannu gan filwriaethwyr  y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn gynharach roedd Maamoun Abdulkarim, pennaeth yr adran amgueddfeydd yn Namascus wedi dweud bod ’na anghysondebau yn y wybodaeth am y deml, gan fod llygad dystion wedi methu mynd yn agos at y safle.

Mae’r deml yn un o’r strwythurau mwyaf amlwg ar y safle Rhufeinig.