Ffoaduriaid yn ceisio dringo ar lori yn Calais (llun: PA)
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi pum miliwn ewro (£3.6 miliwn) i lywodraeth Ffrainc i adeiladu gwersyll gwell i ffoaduriaid sy’n ceisio croesi o Calais i Brydain.

Bydd yr arian yn helpu creu gwell cyfleusterau i tua 1,500 o’r rheini sy’n gwersylla yn Calais.

Yr amcangyfrif yw bod tua 5,000 o bobl yn byw o dan amodau truenus yn y gwersyll ar y hyn o bryd.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan ddirprwy lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Frans Timmermans, mewn ymweliad â Calais heddiw.

Mae disgwyl i’r sefyllfa yn Calais gael ei thrafod ymhellach mewn uwch-gynhadledd frys o weinidogion cyfiawnder a gweinidogion materion cartref yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ymhen pythefnos.