Denali yn Alaska, mynydd uchaf gogledd America (o wefan Wikipedia)
Bydd arlywydd America, Barack Obama, yn newid enw mynydd uchaf gogledd America o Mount McKinley i Denali, sef yr enw a ddefnyddir arno gan drigolion brodorol Alaska.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i’r arlywydd gychwyn ar ymweliad tridiau â thalaith fwyaf gogleddol ei wlad.

Fe fydd ei ymweliad yn cychwyn gyda chyfarfod â chriw o frodorion Alaska ar ôl iddo lanio yn Anchorage heddiw.

Mae’r mynydd, sy’n 20,320 troedfedd o uchder, yn cael ei adnabod fel Denali, sy’n golygu “yr un uchel”, yn Alaska, ond mae ei enw swyddogol yn coffáu’r Arlywydd William McKinley, a gafodd ei lofruddio yn ystod ei ail dymor.