Mae’r actor ieuengaf a’r cyntaf o dras Affro-Americanaidd i chwarae rhan y cymeriad Jean Valjean yn Les Misérables ar Broadway wedi marw’n 21 oed.

Cwympodd Kyle Jean-Baptiste o allanfa dân yn yr Imperial Theatre nos Wener, meddai llefarydd ar ran y sioe.

Dywedodd y llefarydd fod gan Jean-Baptiste “ddawn ryfeddol” oedd wedi creu hanes a hud a lledrith yn ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan ar Broadway.

Roedd Jean-Baptiste yn eilydd ar gyfer y prif actor yn y cynhyrchiad, ac fe ymddangosodd ar lwyfan am y tro olaf nos Iau.

Cafodd ei eni yn Efrog Newydd a graddiodd o Brifysgol Baldwin Wallace.

Mewn cyfweliad gyda Playbill yn ddiweddar, dywedodd ei fod wedi breuddwydio am gael ymddangos ar lwyfan ar Broadway er pan oedd e’n blentyn.

Yn un o’i negeseuon olaf ar Twitter, diolchodd Jean-Baptiste am y gefnogaeth a gafodd hyd yma.