Mae’r dyn sydd wedi’i amau o fod yn gyfrifol am ffrwydrad yn Bangkok yn gwrthod cydymffurfio ag ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu y byddai’r dyn, sydd heb gael ei enwi hyd yma, yn parhau yn y ddalfa am saith niwrnod.

Dywedodd llefarydd fod yr heddlu’n credu nad yw’r dyn yn dweud y gwir am yr hyn ddigwyddodd ger cysegrfa ar Awst 17.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ffrwydrad a laddodd 20 o bobol ac a anafodd fwy na 120 o bobol.

Pan gafodd ei arestio, roedd gan y dyn offer ffrwydrol a phasportiau ffug yn ei feddiant.