Mae swyddogion o Wlad Pwyl ‘99%’ yn sicr eu bod nhw wedi dod o hyd i ‘drên aur’ llawn trysor gafodd ei guddio gan y Natsïaid ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd y dirprwy weinidog diwylliant Piotr Zuchowski bod ymchwilwyr wedi gweld delweddau ar radar sydd yn medru gweld o dan ddaear sydd yn ymddangos fel petai nhw wedi cadarnhau’r darganfyddiad.

Yn ôl chwedlau lleol fe aeth trên Almaenig oedd yn llawn aur, gemwaith ac arfau ar goll yn ardal dinas Walbrzych tra bod lluoedd y Natsïaid yn dianc oddi wrth fyddin Rwsia ar ddiwedd y rhyfel yn 1945.

Y gred oedd bod y Natsïaid wedi cuddio’r trên mewn twneli cudd roedden nhw wedi dechrau eu hadeiladu dan ddaear yn yr ardal.

Dau ddyn wedi wedi’i ddarganfod

Mae helwyr trysor wedi ceisio dod o hyd i’r trên ers degawdau ac yn ystod y Rhyfel Oer fe geisiodd byddin ac awdurdodau cudd Gwlad Pwyl hyd yn oed ddod o hyd iddo.

Mae dau ddyn, sydd yn parhau yn ddienw, nawr wedi dweud wrth awdurdodau’r wlad eu bod nhw wedi dod o hyd i’r trên mewn twnnel segur, ac yn hawlio 10% o’r trysor.

Dywedodd Piotr Zuchowski fod y darganfyddiad yn un “eithriadol” ac y gallai’r trên fod â chargo gwerthfawr.

Ychwanegodd ei fod “yn fwy na 99% yn sicr bod y trên yma’n bodoli”.