Mae tri unigolyn bellach wedi’u harestio mewn cysylltiad â marwolaeth 71 o fewnfudwyr mewn lori yn Awstria.

Ddoe, fe gafodd awdurdodau hyd i’r cerbyd wedi’i barcio ar ochr traffordd oedd yn arwain o’r ffin yn Hwngari, gyda chyrff mewnfudwyr oedd wedi mygu i farwolaeth y tu mewn iddi.

Doedd yr heddlu ddim yn siŵr faint o gyrff oedd yn y lori i ddechrau, gan fod rhai ohonynt eisoes wedi dechrau pydru. Y gred oedd bod y lori wedi’i pharcio yno ers o leiaf dydd Mercher.

Yn ôl yr heddlu mae dau o’r rheiny gafodd eu harestio yn dod o Fwlgaria ac roedd gan y trydydd bapurau adnabod o Hwngari.

Syria

Roedd y meirw yn cynnwys wyth dynes a phedwar o blant, gan gynnwys un plentyn ifanc iawn. Cafwyd hyd i ddogfen deithio o Syria oedd yn awgrymu bod o leiaf rhai o’r bobl yn y lori yn ffoaduriaid o’r wlad honno.

Wrth i arweinwyr Ewropeaidd gyfarfod yn Fienna i drafod yr argyfwng ffoaduriaid ar hyd y cyfandir, dywedodd Canghellor yr Almaen Angela Merkel ei bod hi “wedi ei siglo” gan y newyddion “ofnadwy” am y cyrff yn y lori.

“Mae hyn yn ein hatgoffa fod yn rhaid i ni, yn Ewrop, daclo’r broblem yn gyflym, gan ddod o hyd i atebion gyda’n gilydd,” meddai.