Mae Fietnam yn nodi 70 mlynedd o annibyniaeth ers iddi wahanu oddi wrth Ffrainc, trwy ryddhau mwy na 18,000 o garcharorion.

Dywedodd Giang Son, dirprwy cadeirydd swyddfa’r Arlywydd, fod 18,539 o garcharorion yn cael ei rhyddhau dan awdurdod yr Arlywydd Truong Tan Sang, o ddydd Llun nesa’ ymlaen.

Mae 34 o dramorwyr ymhlith y carcharorion a fydd yn cael eu rhyddhau – 16 o China, 6 o Malaysia, 6 o Laos a 2 o Awstralia.

Mae dros 63,000 o garcharorion wedi eu rhyddhau yn gynnar ers 2009, yn ôl ffigurau llywodraeth.