Heddlu FFrainc
Mae dyn 26 oed o Foroco yn wynebu cyhuddiad yn ymwneud a brawychiaeth ar ôl iddo gael ei rwystro ar drên yn Ffrainc.

Mae’r awdurdodau ym Mharis yn dweud mai bwriad Ayoub El-Khazzani oedd lladd cannoedd o deithwyr ar y trên.

Cafodd El-Khazzani ei atal rhag cynnal ymosodiad ar ôl i bump o deithwyr ar y trên – gan gynnwys tri Americanwr a dyn o Brydain – ei daclo.

Mae El-Khazzani yn gwadu cynllwynio ymosodiad brawychol gan honni ei fod wedi dod o hyd i fag yn llawn arfau a’i fod wedi penderfynu dwyn oddi wrth y teithwyr.

Dywed yr erlynydd Francois Molins ym Mharis bod El-Khazzani wedi gwylio fideo jihadaidd ar ei ffon symudol eiliadau cyn yr ymosodiad, ac er iddo honni ei fod yn ddigartref, roedd ganddo docyn dosbarth cyntaf.

Ymhlith y cyhuddiadau mae’n ei wynebu mae ceisio llofruddio, bod ag arfau yn ei feddiant a chynllwynio.