James Holmes
Mae mam dyn a gafwyd yn euog o lofruddio 12 o bobol mewn sinema yn Colorado yn 2012 wedi dweud na all ei mab fynegi edifeirwch oherwydd ei salwch meddwl a meddyginiaeth mae’n ei gymryd.

Roedd Arlene Holmes yn annerch llys yn ystod gwrandawiad i ddedfrydu ei mab, James Holmes, a gafwyd yn euog o lofruddio 12 o bobol wrth iddyn nhw wylio’r ffilm Batman newydd.

Mae’r gwrandawiad wedi clywed gan fwy na 100 o ddioddefwyr a goroeswyr sydd wedi cael eu heffeithio’n gorfforol ac yn feddyliol.

Sgitsoffrenia

Dywedodd Arlene Holmes wrth y llys ei bod hi a’i gŵr yn “flin iawn” fod y drasiedi wedi digwydd, a’i bod hi wedi bod yn ymchwilio i hanes cyflwr meddyliol aelodau ei theulu a ffyrdd o atal pobol â salwch meddwl rhag cyflawni gweithredoedd treisgar.

Yn gynharach yn y gwrandawiad, dywedodd Arlene Holmes nad oedd hi’n ymwybodol bod ei mab yn dioddef o sgitsoffrenia tan ar ôl y gyflafan.

Bydd y barnwr yn yr achos yn dedfrydu James Holmes i oes o garchar heb barôl heddiw, yn ogystal â dedfryd ychwanegol o 3,318 o flynyddoedd dan glo am geisio llofruddio.

Roedd y rheithgor yn yr achos wedi gwrthod derbyn nad oedd Holmes yn ei iawn bwyll.

Roedd 11 o aelodau’r rheithgor yn ffafrio’r gosb eithaf tra bod y llall yn ffafrio oes o garchar heb barôl.

Dim ond trwy reithfarn unfrydol y gellir dedfrydu rhywun i farwolaeth yn ôl system gyfreithiol talaith Colorado.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Holmes ddydd Mawrth na fydden nhw’n apelio yn erbyn ei euogfarn.