Yr awyren for ar safle'r ddamwain yn Les Bergeronnes, Quebec
Mae pedwar o Brydeinwyr wedi marw mewn damwain awyren fechan yng Nghanada.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod pedwar o Brydeinwyr  ymhlith chwech o bobl fu farw yn y ddamwain.

Bu farw pump o deithwyr a’r peilot pan blymiodd yr awyren fôr i ardal goediog yn Les Bergeronnes yn nhalaith Quebec.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn darparu cymorth consylaidd i’r teuluoedd a’u bod yn cadw mewn cysylltiad a’r awdurdodau yng Nghanada.

Mae’n debyg bod y pedwar wedi bod yn ymweld a’r ardal ac wedi mynd ar y daith awyren bnawn dydd Sul pan ddigwyddodd y ddamwain.

Fe fydd eu cyrff yn cael eu cludo i Montreal ar gyfer profion fforensig.