Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi na fydd yn newid y rheolau ynghylch teithio yn ddirwystr rhwng gwledydd Ewropeaidd, heb basbort.

Daw’r penderfyniad er gwaethaf pwysau i dynhau’r rheolau ar ôl i ddyn arfog gael ei rwystro rhag cynnal ymosodiad ar drên yn Ffrainc ddydd Gwener ddiwethaf, a’r ffaith fod nifer yr ymfudwyr sy’n teithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar gynnydd.

Mae Cytundeb Schengen yn caniatáu teithio rhwng 22 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn ddirwystr yn ogystal â Gwlad yr Ia, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd: “Nid yw rheolau Schengen dan ystyriaeth, ac nid oes gan y Comisiwn unrhyw fwriad i’w newid.”

Ond dywedodd Prif Weinidog Gwlad Belg Charles Michel ei fod yn bosib y bydd yn rhaid adolygu’r rheolau os nad yw’r heddlu gallu cynnig diogelwch digonol i deithwyr.